Katie’s Heirloom wedding ring

8th May 2020

The lovely Katie from The Silk Loft got in touch to see if her mother’s heirloom wedding ring could be used to create her new wedding ring.  This is something that is possible and has lovely sentimental value.  Sometimes an heirloom ring can be amended to suit simply by stretching/reducing to a particular finger size or filing down the width.  However, there’s often a need to melt down the heirloom ring completely in order to re-cast into a new shape, width or finger size. Melting and re-casting works best with gold. Description and images of process below:

Cysylltodd yr hyfryd Katie o The Silk Loft i weld a oedd posib defnyddio modrwy briodas ‘heirloom’ ei mham i greu ei modrwy briodas newydd. Mae hyn yn rhywbeth sy'n bosibl ac sydd â gwerth teimladol hyfryd. Weithiau gellir newid modrwy ‘heirloom’ i weddu dim ond drwy ei ymestyn/lleihau i faint bys penodol neu ffeilio lawr y lled. Fodd bynnag, yn aml mae angen toddi i lawr y fodrwy ‘heirloom’ yn llwyr er mwyn ail-gastio i siâp, lled neu faint bys newydd. Mae toddi ac ail-gastio yn gweithio orau gydag aur. Gweler disgrifiad a lluniau o'r broses isod:

1) Verify the carat of the gold by viewing the hallmark and undertaking a surface acid test. Use a saw to cut out any solder seams as solder will be of a different, usually lower quality metal. Cut the remaining ring into smaller pieces in order for it to melt easier.

1) Gwirio carat yr aur trwy edrych ar y ‘hallmark’ a chynnal prawf asid gwyneb. Defnyddio llif i dorri unrhyw wythiennau sodr allan gan y bydd sodr o fetel gwahanol, fel arfer o ansawdd is. Torri’r fodrwy sy'n weddill yn ddarnau llai er mwyn iddo doddi'n haws.

heirloom old yellow gold wedding ring
re-make re-melt old heirloom wedding ring

2) Use computer software to design the new ring and 3D print a resin version to be used to create a mould.

2) Defnyddio meddalwedd cyfrifiadurol i ddylunio'r fodrwy newydd ac argraffu 3D fersiwn resin i'w defnyddio i greu mowld.

3D printed green resin engagement and wedding rings
3D printed green resin wedding ring

3) Press the green resin ring into the two part sand casting mould and remove in order to create an empty space in the sand to melt the metal into. Melt the metal and pour into the sand casting mould. The cast metal ring will be a replica of the green resin ring, as can be seen in the second image below. This image also shows the charred sand casting mould where the hot molten metal was poured into.

3) Pwyso'r fodrwy resin gwyrdd i mewn i'r mowld castio tywod dwy ran ac yna ei dynnu allan er mwyn creu lle gwag yn y tywod i doddi'r metel i mewn iddo. Toddi'r metel a'i arllwys i'r mowld castio tywod. Bydd y fodrwy metal yr run peth a'r fodrwy resin gwyrdd, fel y gwelir yn yr ail lun isod. Mae'r llun hefyd yn dangos y mowld castio tywod wedi ei losgi lle tywalltwyd y metel poeth i mewn.

melting down old heirloom yellow gold to create new wedding ring
sand cast old heirloom yellow gold wedding ring

4) Cut away the central sprue, leaving just the ring left. The sprue is a channel through which the metal is poured into the sand casting mould. The metal from the sprue is always returned to the client and can be used to create another item in future.

4) Torri’r ‘sprue’ canolog i ffwrdd, gan adael y fodrwy yn unig ar ôl. Y ‘sprue’ yw’r sianel lle mae'r metel yn cael ei dywallt i'r mowld castio tywod. Mae'r metel o'r ‘sprue’ bob amser yn cael ei ddychwelyd i'r cleient a gellir ei ddefnyddio i greu eitem arall yn y dyfodol.

yellow gold wedding ring created from melted down old heirloom wedding ring
work in progress old heirloom yellow gold wedding ring melted down

5) The ring is very rough at this stage as the sand in the casting mould leaves a texture on the surface. The ring has to be filed down and sanded smooth using a range of different grade sandpapers. The next step is to send the ring to the London Assay Office for hallmarking. Rings are usually sent to hallmarking prior to being polished as marks can occur during the hallmarking process which may need to be sanded out.

5) Mae'r fodrwy yn arw iawn ar hyn o bryd gan fod y tywod yn y mowld castio yn gadael gwead ar y wyneb. Rhaid ffeilio'r fodrwy i lawr a'i sandio yn llyfn gan ddefnyddio ystod o bapurau tywod o wahanol raddau. Y cam nesaf yw anfon y fodrwy i’r Swyddfa Assay yn Llundain i roid ‘hallmark’ arno. Fel rheol, anfonir modrwyau i gael ‘hallmark’ cyn cael eu sgleinio gan y gall marciau ddigwydd yn ystod y broses ‘hallmark’ y gallai fod angen eu sandio allan.

sanding of yellow gold wedding ring
work in progress yellow gold wedding ring on the bench peg

6) The final step is to polish the ring until i't’s shiny and give it a good clean in the ultrasonic machine. The ultrasonic is a tank with a mix of water and cleaning solution which vibrates in order to remove any polish residue. Other finishes are available such as matt satin or hammered. A shiny re-melted heirloom gold wedding ring ready to go to it’s new home with it’s partner.

6) Y cam olaf yw rhoi ‘polish’ ar y fodrwy nes y mae yn sgleiniog ac yna ei glanhau yn y peiriant ultrasonic. Mae'r ultrasonic yn danc gyda chymysgedd o ddŵr a hydoddiant glanhau sy'n dirgrynu er mwyn cael gwared ar unrhyw weddillion polish. Mae gorffeniadau eraill ar gael fel satin di-sglein neu forthwylio. Dyma’r fodrwy briodas aur ‘heirloom’ sgleiniog wedi'i hail-doddi yn barod i fynd i'w chartref newydd gyda'i phartner.

yellow gold wedding ring
yellow gold wedding rings in box
yellow gold wedding ring
yellow gold wedding ring set
Next
Next

Jon and Lucy's Engagement Ring